Mae'ch diogelu chi a'ch gwybodaeth yn hollbwysig i Gyllid Myfyrwyr Cymru. Rydym wedi partneru gyda 'Get Safe Online' i hyrwyddo diogelwch a diogeledd ar-lein.
Mae ar www.getsafeonline.org wybodaeth ddefnyddiol a chyngor defnyddiol ar ddiogelwch ar-lein.
Phishing guide (PDF) - darllenwch y canllaw PDF i negeseuon e-bost twyllodrus a gwefannau ffug.
Y Pum Awgrym Gorau i Osgoi Rhwyd-dwyllo
- Byddwch yn amheus o unrhyw geisiadau brys am wybodaeth bersonol neu ariannol.
- Byddwch yn ymwybodol: mae rhwyd-dwyllo'n gyffredin ar adeg y tri phrif ddyddiad talu mewn rhandaliadau ym mis Medi, mis Ionawr a mis Ebrill.
- Sicrhewch bob amser eich bod yn defnyddio gwefan ddiogel wrth gyflwyno gwybodaeth cerdyn credyd neu wybodaeth sensitif arall; chwiliwch am "https://" ac/neu'r clo diogelwch.
- Atal: Efallai y bydd eich manylion e-bost wedi'u cymryd o safle rhwydweithio cymdeithasol felly osgowch ddatgelu'ch cyfeiriad e-bost neu gwnewch yn siwr eich bod yn ei guddio ar eich tudalen.
- Archwiliwch ansawdd y cyfathrebu. Yn aml, mae camsillafu, atalnodi gwael a gramadeg gwael yn arwyddion amlwg o rwyd-dwyllo.
Wedi cael e-bost rhwyd-dwyllo neu wedi cael eich dal allan?
Os cewch e-bost amheus, anfonwch hi ymlaen at ein Tim Diogelwch a fydd yn ymchwilio ac yn cau unrhyw safleoedd er mwyn helpu diogelu myfyrwyr eraill. Sylwch na allwn ymateb i bob e-bost a anfonir at y cyfeiriad hwn.
Os ydych chi wedi ymateb i e-bost rhwyd-dwyllo ac wedi rhoi'ch manylion, dylech newid cyfrinair eich cyfrif ac anfon yr e-bost ymlaen at phishing@slc.co.uk i'n rhybuddio ni cyn gynted â phosibl. Os ydy'ch cyfrif wedi'i gyfaddawdu, byddwn yn ymchwilio i'r digwyddiad.
Fydd y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr:
- byth yn gofyn i chi ddiweddaru'ch manylion banc.
- byth yn anfon cais i chi i ddiweddaru'ch cyfrinair neu ateb cyfrinachol, oni bai eich bod wedi gofyn i ni ailosod y rhain.
- byth yn gofyn i chi glicio ar gyswllt ond byddwn bob amser yn gofyn i chi deipio'r cyfeiriad eich hun: https://www.gov.uk/student-finance
- byth yn rhoi dewis i chi o gwestiwn cyfrinachol pan fyddwch chi'n mewngofnodi. Dim ond y cwestiwn yr ydych chi wedi'i ddewis y byddwn ni'n ei ofyn.
- byth yn gofyn i chi roi eich ateb cyfrinachol yn llawn. Dim ond nodau penodol ohono y byddwn yn gofyn amdanynt.
Cyfrineiriau ac Atebion Cyfrinachol
Pan fyddwch chi'n cofrestru gyda Chyllid Myfyrwyr, byddwn yn rhoi Cyfeirnod Cwsmer (CRN) i chi. Mae hwn yn unigryw i chi, a dylech ei ddyfynnu os ydych chi angen cysylltu â ni.
Os byddwch chi'n cofrestru gyda Chyllid Myfyrwyr ar-lein, byddwch yn dewis eich cyfrinair ac ateb cyfrinachol eich hun pan fyddwch yn creu eich cyfrif. Gallwch ddefnyddio'r rhain, gyda'ch cyfeiriad e-bost neu CRN i fewngofnodi i'ch cyfrif ar-lein.
Os na wnaethoch chi gofrestru ar-lein, ond y gwnaethoch chi anfon ffurflen gais papur, byddwn yn creu cyfrif i chi ac yn rhoi cyfrinair ac ateb cyfrinachol dros dro. Pan fyddwch chi'n mewngofnodi i'ch cyfrif ar-lein am y tro cyntaf, byddwn yn gofyn i chi newid y rhain i gyfrinair ac ateb cyfrinachol o'ch dewis eich hun.
Gallwch ailosod eich cyfrinair ac ateb cyfrinachol unrhyw bryd gan ddefnyddio ein gwasanaeth ar-lein. Cofiwch, bob amser, ddewis cyfrinair ac ateb cyfrinachol y byddwch yn eu cofio, ond na fydd yn rhy hawdd i rywun arall eu dyfalu.
Cael mynediad diogel i'n gwasanaeth
Mae ein gwefan wedi'i chynllunio i sicrhau pan fyddwch chi'n cael mynediad i'ch cyfrif neu'n anfon gwybodaeth atom ni, y byddant yn ddiogel.
Pan fyddwch yn mewngofnodi ac yn mynd at eich cyfrif ar-lein, fe'ch diogelir gan sesiwn wedi'i hamgryptio'n ddiogel. Fe welwch y cyfeiriad gwe yn dechrau gyda "https" yn hytrach na dim ond "http" ac eicon clo clap bach yn y bar statws ar waelod eich ffenestr bori.
Cofiwch allgofnodi o'n safle pan fyddwch wedi gorffen ei ddefnyddio, a chaewch ffenestr y porwr. Mae hyn yn sicrhau bod eich sesiwn defnyddiwr wedi cau yn gywir.
Rydym yn argymell pan fyddwch chi'n ymweld â'n safle eich bod yn teipio'r cyfeiriad https://www.gov.uk/student-finance i'ch porwr. Mae hyn yn sicrhau eich bod yn mynd i'r safle cywir ac nid safle twyll neu dwyllodrus.
Diogelu'ch Cyfrifiadur
Diweddaru'ch system Weithredu
Sicrhewch yn rheolaidd fod system weithredu'ch cyfrifiadur a'r feddalwedd sy'n rhedeg arni'n gyfoes.
Mae gan y rhan fwyaf o systemau gweithredu gyfleuster diweddaru a fydd yn diweddaru eu meddalwedd yn awtomatig ar eich cyfrifiadur.
Ar gyfer pecynnau meddalwedd neu raglenni eraill a ddefnyddiwch, trowch at wefan y gwneuthurwr i weld pa ddiweddariadau sydd ar gael.
Gosod Sganiwr Gwrth-firws
Bydd sganiwr gwrth-firws da yn archwilio negeseuon e-bost sy'n dod i mewn a ffeiliau a agorwch.
Darganfyddir firysau newydd bob dydd gan wneuthurwyr gwrth-firws felly mae'n bwysig eich bod yn diweddaru'r 'ffeiliau diffiniad' (y rhestr o firysau y mae'r sganiwr yn gwybod amdanynt) bob 2 neu 3 diwrnod.
Gosod Llen-dân
Mae llen-dân yn rhwystr hanfodol rhwng eich cyfrifiadur a'r rhyngrwyd, gan atal unrhyw un rhag cysylltu â'ch cyfrifiadur heb eich caniatâd.
Mae gan y rhan fwyaf o systemau gweithredu cyfrifiaduron, fel Mac OS X, Windows XP neu Vista, llen-danau wedi'u hymgorffori. Ceir cynhyrchion llen-dân y gellir eu lawrlwytho o'r rhyngrwyd. Gwnewch yn siwr fod llen-dân eich cyfrifiadur yn weithredol.
Byddwch yn ofalus o Firysau, ysbïwedd a meddalwedd faleisus
Gall unrhyw gyfrifiadur sy'n gysylltiedig â'r rhyngrwyd fod yn agored i firysau, meddalwedd faleisus neu ysbïwedd. Daw firysau ar sawl ffurf; wedi'u hatodi wrth negeseuon e-bost, wedi'u cynnwys mewn rhaglenni diniwed yr olwg neu eu lledu trwy wefannau wedi'u heintio.
Mae firysau naill ai'n ceisio difrodi'ch cyfrifiadur trwy dynnu ffeiliau pwysig ymaith neu newid data, neu trwy gasglu gwybodaeth amdanoch chi a'i hanfon at drydydd parti anawdurdodedig. Gall firysau ceisio ymledu trwy geisio anfon eu hunain at eich cysylltiadau e-bost neu at ddefnyddwyr eraill safleoedd rhannu ffeiliau.